2012 Rhif 1397 (Cy. 169) (C. 52)

IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 yn rhestru’r darpariaethau sydd i ddod i rym ar 6 Mehefin 2012.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn Rhan 2 o’r Mesur, sy’n ei gwneud yn ofynnol bod darparwyr  gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol yn penodi cydgysylltydd gofal ar gyfer cleifion perthnasol. Mae Rhan 2 hefyd yn pennu swyddogaethau cydgysylltydd gofal. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn cychwyn Rhan 3 o’r Mesur, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd. Cychwynnir hefyd rai o ddarpariaethau Rhan 5 o’r Mesur, i’r graddau y maent yn ymwneud â Rhannau 2 a 3.

 

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru a Lloegr gan orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

 

Darpariaeth

Dyddiad cychwyn

 

O.S. Rhif

Adran 1

8 Mai 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 2

8 Mai 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 4

8 Mai 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 5

8 Mai 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 11

8 Mai 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 31

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 32

3 Ionawr 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 33

2 Ebrill 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 34

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 35

3 Ionawr 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 36

2 Ebrill 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 37

3 Ionawr 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 38

2 Ebrill 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 39

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 40

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 43

8 Mai 2012 (yn rhannol)

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 44

3 Ionawr 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 45

8 Mai 2012

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 53(1)

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Adran 54

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Atodlen 1

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

Atodlen 2

3 Ionawr 2012 (yn rhannol)

2 Ebrill 2012 (yn llawn)

2011/3046

(Cy.321)(C.116)

 

Gweler hefyd adran 55(1) o’r Mesur, ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y dyddiad ddau fis ar ôl cymeradwyo’r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.

 


2012 Rhif 1397 (Cy. 169) (C. 52)

IECHYD MEDDWL, CYMRU A LLOEGR

Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2) 2012

Gwnaed                                    28 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010([1]).

Enwi a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 2) 2012.

(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

Darpariaethau’r Mesur sy’n dod i rym ar 6 Mehefin 2012

2. Mae darpariaethau canlynol y Mesur yn dod i rym ar 6 Mehefin 2012—

(a)     Adran 12 (ystyr “claf perthnasol”);

(b)     Adran 13 (ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl”);

(c)     Adran 14 (dyletswydd i benodi cydgysylltydd gofal ar gyfer claf perthnasol);

(d)     Adran 15 (dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol);

(e)     Adran 16 (darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofal);

(f)      Adran 17 (dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl) ac eithrio i’r graddau y mae’n ymwneud â  Rhan 1 o’r Mesur;

(g)     Adran 18 (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) ac eithrio i’r graddau y mae’n ymwneud â  Rhan 1 o’r Mesur;

(h)     Adran 19 (trefniadau ar gyfer asesu defnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd);

(i)      Adran 20 (dyletswydd i gynnal asesiadau);

(j)      Adran 21 (methiant i gytuno ar drefniadau);

(k)     Adran 22 (hawl i asesiad);

(l)      Adran 23 (asesiadau: y cyfnod rhyddhau perthnasol);

(m)   Adran 24 (darparu gwybodaeth am asesiadau);

(n)     Adran 25 (diben asesu);

(o)     Adran 26 (asesiadau: darpariaeth bellach);

(p)     Adran 27 (camau yn dilyn asesiad);

(q)     Adran 28 (atgyfeiriadau sy'n ymwneud â gwasanaethau tai neu wasanaethau llesiant);

(r)      Adran 29 (penderfynu man preswylio arferol);

(s)      Adran 30 (cymhwysiad y Rhan hon i bersonau o dan warcheidiaeth awdurdod lleol);

(t)      Adran 41 (cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o’r Mesur;

(u)     Adran 42 (rhannu gwybodaeth) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o’r Mesur;

(v)     Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 2 a Rhan 3 o’r Mesur;

(w)   Adran 46 (Rhan 3: y pŵer i sicrhau darpariaeth ranbarthol); ac

(x)     Adran 47 (rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhan 2 o’r Mesur.

 

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

28 Mai 2012



([1])     2010 mccc 7.